Dysgu Cymraeg yn PDC

Mae dwy iaith swyddogol yng Nghymru – y Gymraeg a'r Saesneg. Gallwch weld a chlywed y ddwy ar draws y wlad, o arwyddion gwybodaeth, i fyfyrwyr sy'n dilyn eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol.

Eisiau dysgu Cymraeg? Want to learn Welsh? 

  • Ydych chi'n ystyried eich cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol? Gallai dysgu Cymraeg eich helpu i wella eich CV.
  • Wnaethoch chi ddysgu ychydig o dermau yn yr ysgol? A fyddech chi wrth eich bodd yn diweddaru eich gwybodaeth?
  • A yw eich plant yn mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg? Hoffech chi rannu'r profiad gyda nhw?
  • Hoffech chi gymryd rhan, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau?

Os ydych yn ystyried dysgu Cymraeg, gallwn eich rhoi ar y trywydd iawn!

Mae'r Brifysgol yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu Cymraeg. Gall dysgwyr y Gymraeg fanteisio ar arbenigedd tiwtoriaid a darlithwyr ym Mhrifysgol De Cymru, cael profiad dysgu o ansawdd uchel, mwynhau dysgu a gwneud ffrindiau ar hyd y ffordd.  

I gael gwybod sut y gallwch chi ymuno â chwrs i ddysgwyr Cymraeg, neu fynd i ddigwyddiadau hwyliog a chymdeithasol yn yr ardal, ewch i Cymraeg i Oedolion. Mae gan y Ganolfan ystod eang o gyrsiau o ansawdd uchel ar gyfer pob lefel bosibl – o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl sydd eisiau gwella eu sgiliau.

Angen help gyda dy Gymraeg?

Mae'r meddalwedd Cysgliad yn cynnwys dwy raglen sydd wedi'u hanelu at helpu defnyddwyr gyda'u gramadeg, eu sillafu a'u sgiliau cyfrwng Cymraeg ac mae’r feddalwedd ar gael i staff a myfyrwyr a fyddai'n hoffi ymarfer a datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.

Mae'r pecynnau meddalwedd Cysill a Cysgeir wedi'u gosod ar gyfrifiaduron mewn labordai TG ar bob campws ac maent ar gael i aelodau staff unigol ar eu cyfrifiaduron Swyddfa.