Geiriaduron

Angen help gyda’r Gymraeg?

Mae’r Brifysgol wedi trefnu bod y feddalwedd Cysgliad ar gael i aelodau o staff a myfyrwyr sydd angen help neu eisiau datblygu ac ymarfer eu Cymraeg.

Mae Cysgliad yn darparu dau becyn sydd yn anelu i helpu gyda dy ramadeg, dy ysgrifennu a’th sgiliau Cymraeg.

Mae pecynnau meddalwedd Cysill a Cysgeir wedi eu gosod ar y cyfrifiaduron yn y labordai TG ar bob campws ac maent hefyd ar gael i aelodau unigol o staff ar gyfrifiaduron yn eu swyddfeydd.

Mae rhestrau termau safonol ar gael ar y gwefannau canlynol hefyd:

Geiriadur yr Academi: sef geiriadur o’r Saesneg i’r Gymraeg:

Byd Term Cymru: dyma’r termau y bydd cyfieithwyr Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio wrth eu gwaith.

Geiriadur Prifysgol Cymru: geiriadur Cymraeg-Saesneg.

Geiriadur PDDS: geiriadur Cymraeg-Saesneg/Saesneg-Cymraeg.

Geiriadur Bangor: geiriadur Cymraeg-Saesneg.

Gweiadur: geiriadur a thesawrws Cymraeg-Saesneg/Saesneg-Cymraeg. Bydd angen creu cyfrif dy hun.

https://www.cysgliad.com/cy/Gellir hefyd gwirio dogfennau gyda Cysill ar y we ar wefan CySill ar-lein.

Wales Flag 2