Cymraeg yn PDC

Y mae’r wybodaeth isod yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg – the information below is relevant to students who are Welsh-speaking, but if you’d like to find out about learning Welsh, please go to Learn Welsh at USW for further information. The University supports and encourages students to learn Welsh as they study here – a little can go a long way.


Wyt ti’n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf neu ail iaith?

Os wyt ti, dyma ychydig o wybodaeth iti am sut y mae modd iti ddefnyddio a datblygu dy sgiliau cyfrwng Cymraeg wrth iti astudio yma ym Mhrifysgol De Cymru.

Mae rhai myfyrwyr yn dilyn modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o’u hastudiaethau.

Gall myfyrwyr Perfformio, Busnes, Troseddeg, Tirfesureg, Astudiaethau Cynradd, Busnes a Gwyddorau’r Heddlu ddewis gwneud modiwlau o fewn eu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg. I wybod mwy, cer i Cyfleoedd Cymraeg.

1. Adnoddau Cymraeg

1.Y Porth. Ceir deunydd sydd ar gael ar lefel cenedlaethol i unrhyw fyfyriwr sy’n medru’r Gymraeg a darperir adnoddau ar gyfer dewis eang o feysydd astudio.

2. Adnoddau Cymraeg eraill: Ceir rhestr o wahanol fathau o gyfrifiaduron ar-lein a sut i ddod o hyd i wiriwr gramadeg.

2. Eich Gyrfa a'r Gymraeg

Mae'r brifysgol yn cynnig modiwl byr ychwanegol (5 credyd) i unrhyw fyfyriwr sy'n gallu siarad Cymraeg. Pwrpas y modiwl yw cynyddu dy gyfleoedd cyflogaeth drwy dy arfogi di i weithio mewn sefydliadau Cymraeg neu ddwyieithog.

Gelli di hefyd gwneud cais am ysgoloriaeth werth £250. Clicia yma i ddysgu mwy am sut i gofrestru.

3. Cyflwyno aseiniadau drwy gyfrwng y Gymraeg

Gallet ti wneud cais i gyflwyno dy asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â chael sgwrs gyda ein tiwtoriaid neu Hyfforddwyr Personol Academaidd. I wybod mwy, cer i Cyflwyno Asesiadau yn Gymraeg.

4. Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Trwy ymaelodi â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fe gei di’r wybodaeth ddiweddaraf am addysg uwch cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys eu hysgoloriaethau, cyfle i ymgeisio fel llysgennad y Coleg a chyfle i weithio tuag at y Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg.

Tystysgrif Sgiliau Iaith

Mae'r cymhwyster hwn yn dangos i gyflogwyr dy alluoedd Cymraeg. Bydd angen i ti baratoi cyflwyniad byr a sefyll arholiad ysgrifenedig. Bydd tiwtor Cymraeg o PDC yn darparu cymorth a chefnogaeth pob cam o'r ffordd, felly os wyt ti'n teimlo'n ddihyder am dy sgiliau Cymraeg, paid â phoeni o gwbl, bydd ein staff ni yn dy helpu di.

5. Tiwtor Personol

Gallet ti wneud cais i drafod problemau personol neu i gwrdd am sgyrsiau anffurfiol / ffurfiol gydag aelodau o staff sy’n medru’r Gymraeg. I wybod mwy, cer i Cyfleoedd Cymraeg.

6. Cymdeithasu a'r wybodaeth ddiweddaraf

Cyfrifon Cymdeithasol

Dilyna'r Uned Gymraeg ar ein cyfrifon cymdeithasol i ddod o hyd i'r digwyddiadau diweddaraf a dyddiadau cau ein hysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg:

Facebook Uned Gymraeg

Instagram Uned Gymraeg

X Uned Gymraeg

E-bostia

Os oes gen ti gwestiwn neu os wyt ti angen cyngor am unrhyw beth yn ymwneud ag ein darpariaeth Cymraeg, ysgoloriaethau, digwyddiadau neu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cysyllta trwy e-bostio [email protected]

Cymdeithas Cymraeg Prifysgol De Cymru

Mae modd cymdeithasu gyda myfyrwyr eraill trwy gyfrwng y Gymraeg gyda Chymdeithas Cymraeg Prifysgol De Cymru -cer i @YGymdeithasGymraegpdc ar Instagram.