Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno aseiniadau yn Gymraeg p'un ai ydyn nhw'n astudio ar gwrs cyfrwng Cymraeg ai peidio.
Anogir myfyrwyr sy’n dymuno cyflwyno asesiad gwaith cwrs neu arholiad* (noder: mae hyn yn ddibynnol ar y corff arholi) yn Gymraeg i gysylltu â'u tiwtor personol, neu ddarlithydd cyn gynted ag y bo modd er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol. Mae’n rhaid i fyfyrwyr hysbysu eu darlithydd dim hwyrach na 3 wythnos cyn dyddiad cau'r aseiniad.
Bydd y Brifysgol yn chwilio am ddarlithydd perthnasol a fydd yn medru marcio ac asesu’r gwaith neu’n trefnu cyfieithu’r gwaith i’r Saesneg.